Credaf yn Nuw Dad Hollgyfoethog, Creawdwr nef a daear:.
Ac yn Iesu Grist, ei un Mab ef, ein Harglwydd ni;
Yr hwn a gaed trwy’r Yspryd Glân, A aned o Fair Forwyn,
A ddïoddefodd dan Pontius Pilatus, A groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd;
A ddisgynodd i uffern; Y trydydd dydd y cyfododd o feirw; A esgynodd i’r nefoedd.
Ac y mae yn eistedd ar ddeheudaw Dduw Dad Hollgyfoethog;
Oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr Eglwys Lân Gristnogol;
Cymmun y Saint; Maddeuant pechodau;
Adgyfodiad y cnawd, A’r Bywyd tragywyddol.
Amen.