Creation Science Information & Links!
The 2 Commandments

   "Dywedodd Iesu wrtho, 'Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.'  Dyma'r gorchymyn cyntaf a phwysicaf.  Ac y mae'r ail yn debyg iddo: 'Câr dy gymydog fel ti dy hun.'  Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu."   Mathew 22:37-40
 


   "A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddod neu ar fyrddiwn o afonydd olew? A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd, fy mhlant fy hun am fy mhechod?  Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw."   Micha 6:7-8
 

   "Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.  Oherwydd os yw rhywun yn wrandawr y gair, ac nid yn weithredwr, y mae'n debyg i un yn gweld mewn drych yr wyneb a gafodd;  fe'i gwelodd ei hun, ac yna, wedi iddo fynd i ffwrdd, anghofiodd ar unwaith pa fath un ydoedd.  Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.  Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.  Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd."   Iago 1:22-27
 

   "Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.  Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg."   Pregethwr 12:13-14


The 2 Commandments · Cymraeg
http://www.creationism.org/welsh/salv2Cmd_cy.htm



Prif:  Cymraeg
www.creationism.org